Roedd Nicola wedi meddwl am faethu ers amser maith. “Roeddwn i’n arfer gweithio ochr yn ochr â gofalwr maeth arall o Fro Morgannwg,” meddai. “Roeddwn i bob amser yn dweud wrtho fi fy hun: pan fydd yr amser yn iawn, fe fydda i’n gwneud hynny hefyd.”
Ar ôl priodi a chael tri o blant eu hunain, roedd Nicola a’i gŵr yn teimlo’n barod. “Roedd ein plentyn ieuengaf yn wyth oed, ac roedd y tri phlentyn yn galonogol iawn. Roedden nhw wrth eu bodd â’r syniad o fod yn rhan o deulu maeth.” Dechreuodd y cwpl eu taith gyda Maethu Cymru Bro Morgannwg ac, 11 mlynedd yn ddiweddarach, dydyn nhw erioed wedi edrych yn ôl.
Cefnogi babanod a chreu cysylltiadau gydol oes
Mae Nicola yn arbenigo mewn maethu babanod, gofalu amdanyn nhw trwy gyfnodau pontio allweddol – p’un a ydyn nhw’n dychwelyd i deuluoedd biolegol neu’n symud ymlaen i fabwysiadu. Mae hi hefyd yn cefnogi plant trwy leoliadau brys ac egwyliau byr.
“Pedair blynedd oedd y cyfnod hiraf roedden ni wedi gofalu am blentyn. Rydych chi’n creu cysylltiadau cryf ac, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw symud ymlaen, mae llawer yn dal i ddod yn ôl ar gyfer penblwyddi a’r Nadolig. Rydyn ni’n dal i fod yn rhan o’u bywydau. Mae’n hyfryd eu gweld nhw’n tyfu.”
O waith plant i faethu llawn amser
Roedd ei chefndir bob amser yn cynnwys plant – o redeg canolfan chwarae i weithio fel nyrs gronfa ac mewn meithrinfeydd. “Roedd maethu yn teimlo fel y cam cywir. Fydda i byth yn edrych yn ôl.”
O’r diwrnod cyntaf, mae Nicola yn gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn teimlo wedi’i gynnwys ac yn ddiogel. “Y foment maen nhw’n cerdded drwy’r drws, maen nhw’n rhan o’r teulu. Rydyn ni’n eu hamgylchynu â chariad, maeth a lle diogel. Dyna sut mae ymddiriedaeth yn tyfu – trwy fod yno iddyn nhw.”
Mae’r effaith yn ymestyn i’w phlant ei hun hefyd. “Maen nhw wedi bod yn feithringar a chefnogol iawn. Aeth dau ohonyn nhw ymlaen i weithio gyda phlant eu hunain hyd yn oed.”
Yr heriau a’r llawenydd
Mae llawer o heriau yn codi wrth faethu. “Weithiau mae’n anodd meithrin perthynas â rhieni biolegol, ond rydyn ni’n gwneud ein gorau. Yn y pen draw, os yw’n ddiogel, y canlyniad gorau yw i blant ddychwelyd i’w teuluoedd.”
Ond mae’r gwobrau’n hynod foddhaus. “Mae gwylio plentyn yn ffynnu mewn cartref tawel, cariadus yn golygu popeth. Rydw i’n cofio eistedd yn y gynulleidfa mewn cyngerdd Nadolig, gweld plentyn roeddwn i wedi gofalu amdano ar y llwyfan, a meddwl fy mod i wedi helpu i wneud hynny’n bosibl.”
Effaith barhaol
Hyd yn oed ar ôl i blant adael gofal Nicola, mae’r cysylltiad yn parhau. “Maen nhw’n dal i ddod draw am ginio dydd Sul. Rydyn ni’n gwneud llyfrau cof ar gyfer pob plentyn. Mae’n ffordd mor hyfryd o gadw mewn cysylltiad.”
Mae maethu hefyd wedi dod â’i theulu ei hun yn agosach. “Mae wedi dysgu empathi, amynedd a pha mor bwerus y gall cariad a gofal fod.”
Ydych chi’n ystyried maethu? Cyngor Nicola
“I unrhyw un sy’n ystyried maethu, byddwn i’n dweud – ymchwiliwch iddo. Siaradwch â’ch awdurdod lleol a dysgu am yr hyn mae’n ei gynnwys. Oes, mae yna heriau, ond os ydych chi’n wirioneddol ymroddedig, mae’n un o’r pethau mwyaf gwerth chweil y byddwch chi’n ei wneud erioed.”
Yn barod i wneud gwahaniaeth?
Mae gofalwyr maeth fel Nicola yn newid bywydau bob dydd ym Mro Morgannwg. Os ydych chi’n meddwl y gallech chi gynnig cartref diogel, cariadus i blentyn, cysylltwch â ni heddiw.
Ydych chi’n byw ym Mro Morgannwg? Anfonwch neges aton ni a byddwn ni’n ymateb cyn gynted ag y gallwn.
Os ydych chi’n byw rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.