pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Bro Morgannwg, byddwch chi’n cael  lwfansau ariannol hael. Mae’r rhain yn amrywio yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau fel y math o faethu y byddwch chi’n ei wneud, faint o blant y byddwch chi’n gofalu amdanyn nhw, ac am ba hyd y byddwch chi’n maethu.

Er enghraifft, ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg mae yna ofalwyr maeth sy’n derbyn rhwng £16,000 a £23,000 y flwyddyn, am bob plentyn.

manteision eraill

Mae mwy o fanteision i fod yn ofalwr maeth nag y byddech chi’n ei feddwl. Yn ogystal â’r cymorth a’r lwfansau y soniwyd amdanyn nhw eisoes, ym Mro Morgannwg byddwch hefyd yn cael y canlynol:

  • Gwasanaeth ar alwad 24-awr sy’n cael ei ddarparu gan y tîm gwaith cymdeithasol rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.
  • Taliad cadw o hyd at 12 wythnos i’ch cefnogi chi yn ystod cyfnodau pan dydych chi ddim gofalu am blant maeth.
  • Cerdyn diwrnodau gweithgaredd My Max – yn cynnwys gostyngiadau i atyniadau teuluol fel Drayton Manor, Go Ape a Butlins.
  • Mynediad at eich platfform dysgu a datblygu ar-lein eich hun, gan eich galluogi chi i ddysgu mewn ffordd sy’n gweithio i chi, ynghyd â mynediad hawdd at yr wybodaeth ddiweddaraf.
  • Cymorth cofleidiol gan ein tîm seicoleg lleol, ENFYS, sy’n darparu hyfforddiant sy’n seiliedig ar seicoleg ynghyd â chymorth a chyngor 1:1 i’ch helpu gyda thechnegau magu plant therapiwtig.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

A dim dyna’r cyfan: mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’r Ymrwymiad Cenedlaethol. Pecyn o gymorth, hyfforddiant a manteision y cytunwyd arno yw hwn, sydd ar gael i bob un o’n gofalwyr maeth. Felly, fel pob gofalwr maeth Maethu Cymru arall, byddwch yn elwa o’r canlynol:

Happy senior man smiling with young boy on shoulders

un tîm

Dyma eich tîm Maethu Cymru lleol chi, a’r rhwydwaith cenedlaethol ehangach. Rydyn ni i gyd yn gweithio gyda chi, y plant sydd yn eich gofal a phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â’r plentyn. Mae hyn i gyd yn rhan o’r un gwasanaeth.

Rydych chi’n aelod allweddol o’n tîm. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu gan bawb sy’n rhan o Maethu Cymru. Gweithio gyda’n gilydd yw ein nod. Bob tro. Mae’r ffocws hwn ar gadw mewn cysylltiad yn helpu i greu’r dyfodol gorau i’r plant sydd yn ein gofal, yn ogystal â’u teuluoedd maeth.

Drwy ymuno â’r tîm anhygoel hwn, rydych chi’n ymuno â’r rheini sy’n bennaf gyfrifol am bob plentyn sydd angen gofal maeth ym Mro Morgannwg. Dyma sy’n gwneud tîm Maethu Cymru yn unigryw.

dysgu a datblygu

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i dyfu. Ar draws Cymru, mae fframwaith cyson ar gyfer ein gwasanaethau i helpu gyda’ch datblygiad. Mae hyn er mwyn i chi allu elwa o becyn sydd wedi cael ei ystyried, ei brofi ac sy’n cael ei rannu.

Wedi’r cyfan, mae dysgu a thyfu yn rhan allweddol o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.

Er mwyn diwallu anghenion y plant sydd yn eich gofal, rydyn ni’n darparu’r holl offer a hyfforddiant sydd eu hangen. Bydd hyn yn eich helpu i fod yn fwy hyderus ac yn fwy abl.

Pan fyddwch chi’n ofalwr maeth gyda Maethu Cymru, bydd gennych chi hefyd gofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu. Mae’r rhain yn cydnabod y profiadau a’r sgiliau gwerthfawr oedd gennych chi ar ddechrau eich taith, ac maen nhw’n cadw golwg ar y cynnydd rydych chi’n ei wneud. Mae’n adnodd rydyn ni’n ei ddefnyddio i helpu i gynllunio eich dyfodol.

Two young boys in playground playing together on seesaw

cymorth

Dydych chi byth ar eich pen eich hun – mae gennych chi dîm i’ch cefnogi chi. I’ch annog chi. Bydd eich tîm Maethu Cymru wrth eich ymyl chi, bob cam o’r ffordd.

Byddwch yn elwa o weithiwr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol iawn, yn ogystal â’n tîm ehangach a fydd wrth law i helpu bob amser. Rydyn ni yma i chi, i’ch teulu ac i’ch rhwydwaith cyfan.

Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar amrywiaeth eang o grwpiau cymorth yn eich ardal leol. Mae’r rhain yn amrywio o fforymau gofalwyr rheolaidd gydag uwch aelodau o’r tîm rheoli i grwpiau cefnogi misol. Dyma lle gallwch chi rannu profiadau gyda gofalwyr maeth eraill a gwneud ffrindiau am oes gyda phobl fel chi.

Byddwch yn dod o hyd i gymunedau newydd gyda ni. Byddwch chii’n dod o hyd i bobl sy’n deall.

Group of 5 children and young teenagers dancing in street

y gymuned faethu

Rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad.

Byddwch yn barod i fwynhau digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd sy’n gallu dod â chi’n nes at deuluoedd maeth eraill. Dyma lle byddwch chi’n cael profiadau newydd. Meithrin cyfeillgarwch newydd. Creu atgofion newydd hyfryd.

Byddwch chi hefyd yn gallu cael gafael ar lwyth o wybodaeth a chyngor ar-lein. Fyddwch chi byth yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun.

Mae’r manteision eraill sy’n dod yn sgil ymuno â Maethu Cymru’n cynnwys bod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Rydyn ni’n talu eich tâl aelodaeth yn llawn. Mae’r sefydliadau maethu hyn yn cynnig cymorth annibynnol, arweiniad, cyngor preifat a llawer mwy o fanteision. Rydyn ni’n cynnwys y rhain fel mater o drefn gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig ydyn nhw.

Adult helping boy learn to ride a bicycle

llunio’r dyfodol

Mae gan bob gofalwr maeth a phob plentyn yn ein gofal stori unigryw. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hyn, ond mae’r cam nesaf yn bwysicach fyth. Dyna pam ein bod ni’n canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol – dydyn ni ddim yn cael ein harwain gan y gorffennol. Fel rhiant maeth Maethu Cymru, rydych chi’n rhan o hyn ac rydych chi’n helpu i lunio’r dyfodol.

Bydd eich llais yn cael ei glywed. Yn eich ardal chi, ac yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich barn ac rydyn ni am i chi gael effaith wrth symud ymlaen. Felly, bydd cyfleoedd i chi ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru pryd bynnag y bydd newidiadau i’w gwneud. Byddwch hefyd yn cael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Woman and young girl using computer to make video call

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol

  • Cyngor Bro Morgannwg yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.