sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Mae’n debyg eich bod chi’n dychmygu teuluoedd maeth wrth feddwl am faethu. Y cwlwm clòs hwnnw. O ran maethu gyda Maethu Cymru Bro Morgannwg, mae hefyd yn golygu cadw mewn cysylltiad – mwy nag y byddech chi’n ei feddwl. Byddwch chi a’ch tîm Maethu Cymru lleol mewn cysylltiad agos â rhwydwaith pwrpasol sy’n darparu arbenigedd, arweiniad a chymorth proffesiynol pryd bynnag a ble bynnag y bydd ei angen arnoch.

Adult tying childs shoe lace

gwell gyda’n gilydd

Cefnogi plant maeth a gofalwyr maeth ar draws Cymru: dyma rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni hefyd yn cefnogi’r gweithwyr proffesiynol medrus sy’n gweithio gyda ni bob dydd i helpu pob teulu maeth.

Yr unig reswm ein bod ni’n gallu cynnig y lefel hon o gymorth yw am ein bod ni’n sefydliad cydweithredol sy’n gweithredu ar draws y wlad. Mae Maethu Cymru yn bob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd – pob un o’r 22 sefydliad nid-er-elw ymroddedig yn cyfrannu at y nod o helpu plant.

Gyda’n statws nid-er-elw, mae’r holl gyllid rydyn ni’n ei gael yn mynd yn ôl i’r gwasanaeth a’r cymorth rydyn ni’n ei roi. Mae’n mynd i’n gwneud ni’n well yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac yn ein galluogi ni i roi mwy, lle mae ei angen fwyaf.

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Mae Maethu Cymru Bro Morgannwg yn wahanol i’ch tîm faethu arferol. Fel rydyn ni wedi’i grybwyll, rydyn ni’n rhan o dîm cenedlaethol o 22 o dimau maethu Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Mae eich cymuned leol yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud, ac mae aros yn lleol yn rhan bwysig o’n gwasanaethau. Rydyn ni’n edrych ar y darlun cyfan i sicrhau’r gorau i bob plentyn yn ein gofal. Rydyn ni’n helpu i gynnal cyfeillgarwch. Rydyn ni’n gweithio gydag ysgolion, clybiau a chymunedau. Un o’n blaenoriaethau yw cadw plant mewn llefydd cyfarwydd y maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru, pan mae hynny’n iawn iddyn nhw. Fel hyn, rydyn ni’n helpu plant i gynnal eu hymdeimlad o hunaniaeth.

Ein pwrpas yw deall beth sydd orau i bob plentyn. Mae’n ymwneud â gofalu a gwneud ein gorau glas, er mwyn creu dyfodol gwell i’r holl blant sydd yn ein gofal. Fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Bro Morgannwg, chi sy’n gwneud hyn yn bosibl.

dysgu rhagor amdanon ni:

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Bro Morgannwg yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.