ffyrdd o maethu
eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Mae Maethu Cymru yn ymwneud â phobl. Dydyn ni ddim yn ymwneud ag elw. Ein pwrpas yw cefnogi a grymuso ein gofalwyr maeth, a helpu i greu dyfodol mwy disglair i blant lleol.
Efallai eich bod chi eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, mae hyn yn golygu eich bod eisoes yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu lleol yng Nghymru. Rydych chi’n rhan o Maethu Cymru.
Os nad ydych chi’n maethu gydag Awdurdod Lleol ar hyn o bryd, mae trosglwyddo aton ni yn hawdd. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Os nad ydych chi’n maethu gydag Awdurdod Lleol ar hyn o bryd, mae trosglwyddo aton ni yn hawdd. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
sut i drosglwyddo
Mae’n syml: cysylltwch â ni, sef Maethu Cymru Bro Morgannwg.
Byddwn ni dod i’ch adnabod chi, ac yn gweld sut bydd maethu gyda ni’n gweithio, ac os byddwch chi’n penderfynu bwrw ymlaen i newid, byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cefnogi i drosglwyddo.
pam trosglwyddo
Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw pob plentyn sydd angen gofalwr maeth. Felly, ein hangerdd yn ogystal â’n pwrpas ni yw penderfynu a darparu’n union beth sydd ei angen – ar gyfer ein holl blant lleol, yn ogystal â’u teuluoedd maeth.
Rydyn ni’n eich grymuso i fod y gorau y gallwch fod, gyda hyfforddiant arbenigol a chymorth arbennig. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig y gorau i’r plant yn ein gofal, ac i’n gofalwyr maeth.
Hoffech chi ymuno â ni? Dewch i gael rhagor o wybodaeth am y manteision rydyn ni’n eu cynnig.