ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Mae llawer o fathau o ofal maeth ond mae un peth yn gyffredin iddyn nhw i gyd – maen nhw’n cynnig cartref. Lle diogel ac amgylchedd llawn anogaeth lle gall plant dyfu.

Mae angen lle i fyw ar bob plentyn. Lle i ddysgu, chwerthin, cael hwyl, a datblygu perthnasoedd cariadus. Dyna lle gall gofalwyr maeth helpu.

Mae hyd gofal maeth yn gallu amrywio. Gall fod mor fyr ag un noson, ychydig fisoedd, neu rywbeth mwy hirdymor. Mae pob plentyn yn unigolyn sydd angen rhywbeth unigryw. Felly, dydy’r teulu maeth arferol ddim yn bodoli.

gofal maeth tymor byr

Gall gofal maeth tymor byr fod yn noson, wythnos, mis neu fwy na blwyddyn. Mae’n golygu bod cynlluniau ar gyfer plentyn yn dal i gael eu hystyried. Pan fyddwch chi’n ofalwr maeth tymor byr, byddwch chi’n gweithio gyda ni wrth i ni geisio sicrhau rhywbeth mwy hirdymor i’r plentyn.

Long haired young boy in city centre with slush drink

Yn eich rôl fel gofalwr maeth tymor byr, byddwch chi yno i helpu plentyn pan fydd eich angen chi arno. Byddwch hefyd yn ei helpu i symud ymlaen pan fydd yr amser yn iawn, naill ai at ei deulu, at deulu maeth arall neu i gael ei fabwysiadu.

Mae arhosiad byr yn gallu cael effaith enfawr. Mae’n gallu bod yn sylfaen i rywbeth fydd yn newid bywyd – y cam cyntaf ar daith sy’n newydd i bob plentyn yn ein gofal, a phob gofalwr maeth hefyd.

gofal maeth tymor hir

Adult and young boy blowing dandelion together in woods

Mae gofal maeth tymor hir yn gallu cynrychioli cartref newydd gyda theulu cariadus newydd i blant sydd ddim yn gallu byw gartref gyda’u teulu biolegol.

Adult helping teenager with homework

Mae gofal maeth tymor hir yn cael ei ystyried yn ofalus. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod y plentyn maeth cywir yn cael ei baru â’r gofalwr maeth cywir cyhyd ag y bo angen. Mae’n golygu darparu gofod diogel i blentyn. Cynnig sefydlogrwydd iddo gyda theulu maeth, am oes.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae pob math o ofal maeth yn cael ei drafod o dan dymor byr a thymor hir. Mae hyn yn cynnwys mathau mwy arbenigol sydd weithiau angen math penodol o gymeradwyaeth. Gallai’r rhain gynnwys:

Young girl on adults shoulders outdoors exploring

seibiant byr

Mae arnon ni i gyd angen lle i anadlu weithiau. Dyma nod seibiant byr (sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘ofal cymorth’). Bydd y plentyn yn cael ychydig o amser oddi wrth ei deulu ac yn cael profiadau newydd gyda gofalwr maeth.

Mae seibiant byr yn gallu golygu cael plentyn dros nos, yn ystod y dydd neu dros y penwythnos. Mae’r rhain yn aml yn cael eu cynllunio ymlaen llaw a gallan nhw fod yn ddigwyddiadau rheolaidd.

Mae’n ymwneud â dod at eich gilydd i wneud gwahaniaeth. Mae gofalwyr maeth tymor byr yn dod yn rhan o deulu estynedig y plentyn ac yn gweithio gyda phawb i ysgrifennu pennod nesaf eu bywydau.

Young child in adults arms being carried looking up the sky in city

rhiant a phlentyn

Mae maethu rhiant a phlentyn yn eich galluogi i rannu eich profiad eich hun â rhywun sydd wir angen y cymorth a’r cyngor. Dyma’ch cyfle chi i feithrin y genhedlaeth ifanc hon fel eu bod nhw’n gallu gwneud yr un peth. Gall rhieni ddatblygu eu sgiliau, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn, ac yna symud ymlaen i fyw’n annibynnol.

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Bro Morgannwg yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.