y broses

y broses

Rydych chi i gyd ar fin cychwyn ar eich taith, ond pa mor hir mae’r broses faethu yn ei chymryd ym Mro Morgannwg a beth allwch chi ei ddisgwyl?

Closeup of young boys legs playing hopscotch

cam 1 - y cam cyntaf

Dyma’r cam pwysicaf y byddwch chi’n ei gymryd, ond dyma’r cam hawsaf hefyd. Mae’n dechrau gyda’ch ymholiad cychwynnol. Cyn gynted ag y byddwch chi’n codi’r ffôn, yn llenwi’r ffurflen gyswllt isod neu’n anfon e-bost aton ni, bydd eich taith faethu yn cychwyn. Dydy hyn ddim teimlo fel cam mawr efallai, ond credwch chi ni, dyma’r cam pwysicaf y byddwch chi’n ei gymryd.

Adult helping boy learn to ride a bicycle

cam 2 - yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi gysylltu â ni, byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod chi. Bydd hyn yn dechrau gyda rhywfaint o waith papur ac os gallwn ni, byddwn ni yn dod i ymweld â chi yn eich cartref. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn dechrau gyda galwad fideo anffurfiol.

Yn ystod y camau cynnar hyn, mae’n bwysig ein bod ni’n meithrin perthynas â chi. Mae hyn er mwyn i ni allu dod i ddeall beth sydd bwysicaf i chi, a dysgu mwy am y lle rydych chi’n ei alw’n gartref.

Adult tying childs shoe lace

cam 3 - yr hyfforddiant

Yn gynnar iawn yn eich taith faethu, byddwch chi’n cael cynnig hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i chi gael dysgu mwy am faethu, fel eich bod chi’n gallu bod yn sicr mai dyma’r llwybr iawn i chi. Ar y cam hwn, byddwch chi hefyd yn cael cwrdd â gofalwyr maeth newydd eraill ar yr un cam o’u taith.

 

Teitl y cwrs hyfforddi cyntaf hwn yw “Paratoi i faethu” ond mae hefyd yn cael ei alw’n “sgiliau maethu”. Bydd y cwrs hwn yn digwydd dros ychydig ddyddiau neu gyda’r nos. Mae’n ymwneud â datblygu’r wybodaeth, y cysylltiadau a’r rhwydweithiau gwerthfawr y bydd eu hangen arnoch chi yn ystod eich taith faethu.

Woman helping young girl with homework

cam 4 - yr asesiad

Byddwch chi’n dysgu popeth am beth fydd maethu yn ei olygu i chi yn ystod eich asesiad. Ond dim prawf yw hwn. Mae’n gyfle i ni gael gwybod sut mae eich uned deuluol yn gweithio. Mae hefyd yn gyfle gwych i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Gallwch chi siarad am unrhyw beth a allai fod ar eich meddwl.

Mae’r asesiad, sy’n cael ei gynnal gan weithiwr cymdeithasol medrus, yn ystyried cryfderau a gwendidau posibl eich uned deuluol.

Mae’n gyfle i chi baratoi ar gyfer y manteision a’r heriau sy’n dod yn sgil maethu.

Two young boys in playground playing together on seesaw

cam 5 - y panel

Mae gan bob tîm Maethu Cymru banel. Dyma lle bydd eich asesiad yn cael ei ystyried. Mae’r panel yn cynnwys amryw o aelodau gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol ac unigolion annibynnol. Mae pob un yn wybodus ac yn brofiadol iawn, ac maen nhw’n edrych ar bob darpar ofalwr maeth fel unigolyn.

Mae’r panel yno i sicrhau bod eich asesiad yn cael ei ystyried o nifer o wahanol safbwyntiau. Bydd aelodau’r panel yn gwneud argymhelliad yn seiliedig ar yr wybodaeth yn eich asesiad a byddwch chi’n rhan o’r broses hon.

cam 6 - y cytundeb gofal maeth

Unwaith y bydd eich asesiad wedi bod ger bron y panel maethu, byddwch chi’n derbyn y cytundeb gofal maeth. Mae hwn yn nodi popeth mae’n ei olygu i fod yn ofalwr maeth, yn amrywio o’ch cyfrifoldebau dyddiol i’r cymorth a’r arweiniad y byddwch chi’n eu cynnig yn gyffredinol. Mae’r cytundeb hwn hefyd yn nodi’r arbenigedd a’r gwasanaethau y byddwn ni’n eu cynnig i chi fel eich rhwydwaith cefnogi ymroddedig.

Woman and young girl using computer to make video call

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch

  • Cyngor Bro Morgannwg yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.