sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
cymorth a lwfans ym Mro Morgannwg
sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.
Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Bro Morgannwg yn rhoi arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dydy’r cymorth ddim yn dod i ben gyda hynny.
Pan fyddwch chi’n maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:
- arweiniad parhaus gan weithiwr cymorth dynodedig
- lwfans maethu i dalu costau byw hanfodol
- cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
- cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
- a llawer mwy o fuddion
Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael dealltwriaeth well, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.
Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.
lwfans gofal maeth
ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?
Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn. Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys
- faint o blant rydych chi’n eu maethu
- oedran y plant
- ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.
Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.
Yn Maethu Cymru Bro Morgannwg, mae’n bwysig i ni bod plant yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.
lwfans plentyn
ffi’r gofalwr maeth
taliadau ychwanegol
ein hymrwymiad i chi
Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cymorth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.
tîm maethu lleol
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae gennych chi dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.
Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7. Beth bynnag sydd ei angen arnoch chi, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch chi. Byddwn ni yno.
gweithiwr cymorth ymroddedig
Bydd gennych chi weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.
Mae eich tîm Maethu Cymru yn rhan o’r awdurdod lleol, gan weithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill a chysylltiadau gwaith agosach â gweithwyr cymdeithasol plant.
cymorth cyfoedion
Byddwch chi hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill. I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd, ac atgofion newydd i chi. Bydd gofalwyr maeth arloesol profiadol yn eich cefnogi chi.
cyfleoedd dysgu
Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydyn ni’n cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.
mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?
Byddwn ni’n rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch chi ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol rydyn ni’n ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.