ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu ym mro morgannwg?

Wrth i chi ddarllen hyn, mae yna blant ym Mro Morgannwg y mae angen rhywun arnyn nhw. Maen nhw angen cael eu clywed, eu credu a chael rhywun i ofalu amdanyn nhw. Efallai mai chi yw’r person i gynnig y cymorth hwnnw.

P’un ai ydych chi’n talu morgais neu’n talu rhent. P’un ai ydych chi’n briod neu’n sengl. Beth bynnag yw eich cyfeiriadedd rhywiol, eich ethnigrwydd a’ch crefydd. Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth, gallwch chi faethu.

Yma ym Maethu Cymru Bro Morgannwg, mae amrywiaeth yn rhywbeth rydyn ni’n chwilio amdano ac yn ei ddathlu. Mae’r sgiliau a’r profiad sydd gennych chi yn bwysig iawn, ac felly hefyd y rhinweddau sy’n eich gwneud chi’n unigryw. Rydyn ni’n gwybod fod cymysgedd ehangach a mwy amrywiol o ofalwyr maeth yn rhywbeth i’w groesawu.

Ydych chi’n dal i fod yn ansicr a yw maethu yn addas i chi? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Mae maethu gyda ni yn gyfle i wneud gwahaniaeth i blant ar draws Bro Morgannwg. Dim ots pwy ydych chi. Gall fod mor fyr ag arhosiad dros nos neu’n rhywbeth mwy hirdymor.

Mae angen gwahanol bobl ar gyfer gwahanol fathau o ofal maeth. Dyma pam ein bod ni’n croesawu ac angen gofalwyr amrywiol sydd â chefndiroedd gwahanol, profiadau gwahanol a storïau unigryw i’w rhannu.

Ni yw eich canolfan arbenigol ymroddedig. Byddwn ni’n ymuno â chi, eich teulu, eich ffrindiau a’ch rhwydwaith i gyflawni’r gorau i’r plant yn eich cymuned.

Mae yna ddau brif gwestiwn rydyn ni’n eu gofyn o ran pwy sy’n gallu maethu: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Rydyn ni’n gwerthfawrogi pa mor brysur y mae bywyd gwaith yn gallu bod. Os yw eich amserlen gwaith yn brysur, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi gan eich teulu a’ch ffrindiau. Dydy gweithio’n llawn amser ddim o reidrwydd yn rhwystr. Mae’n rhywbeth fydd angen ei ystyried yn fwy gofalus.

Gallwch chi gynnwys maethu yn eich bywyd ond efallai y bydd rhai mathau o faethu’n gweddu’n well i chi na rhai eraill. Mae llawer o ofalwyr maeth yn gweithio’n llawn amser ac yn maethu’n rhan amser drwy gynnig seibiant byr tra bo gofalwyr eraill yn maethu’n llawn amser.

Mae maethu yn ymrwymiad. Ac mae angen gweithio fel tîm. Byddwch chi’n cael cymorth gan y cymysgedd cywir o weithwyr proffesiynol ymroddedig a medrus. Ac, wrth gwrs, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

P’un ai a ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, beth sy’n bwysig yw eich bod chi’n teimlo’n ddiogel yn lle rydych chi’n byw. Gyda’n gilydd, gallwn ni weld beth sy’n gweithio orau i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n ei alw’n gartref.

Oes gennych chi ystafell sbâr sydd ddim yn cael ei defnyddio? Meddyliwch pa mor anhygoel y gallai fod i drawsnewid yr ystafell honno i fod yn lle diogel i rywun fyw ynddo. Ar gyfer plentyn sydd ei angen.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Does dim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol, a does dim plentyn maeth nodweddiadol chwaith. Os oes gennych chi blant yn barod, mae gofalu am blentyn maeth yn golygu ymestyn eich teulu. Mae’n golygu eich bod chi’n ychwanegu rhywun i’w caru ac i ofalu amdanyn nhw.

Mae maethu brodyr a chwiorydd yn gallu bod yn werth chweil hefyd. Mae cael y cipolwg cynnar hwn ar ofal maeth yn gallu hybu dealltwriaeth plant a’u helpu i feithrin cyfeillgarwch sy’n para. Yn well na dim, mae’n gallu datblygu eu gallu i ofalu am eraill.

ydw i’n rhy hen i faethu?

P’un ai ydych chi yn eich 20au neu’ch 70au, does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer maethu. Dim ots beth yw eich oedran, byddwch chi’n cael cymorth a hyfforddiant lleol arbenigol i helpu i’ch paratoi chi ar gyfer eich taith.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Hefyd, does dim terfyn oedran is os ydych chi eisiau maethu. Er bod profiad bywyd yn fonws enfawr, dydy bod yn ifanc ddim yn golygu na allwch chi fod yn ofalwr maeth. Gyda’n rhwydwaith helaeth o gymorth, byddwn ni’n cynnig arweiniad er mwyn i chi allu mwynhau’r ffordd o’ch blaen, waeth beth fo’ch oed.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

O ran maethu, does dim gofynion penodol ynghylch bod mewn perthynas. Dydy bod yn sengl, yn briod neu mewn partneriaeth sifil ddim yn effeithio o gwbl ar eich siawns o faethu.

Yr hyn sydd ei angen fwyaf ar blant yw sefydlogrwydd. Dim ots os ydych chi’n sengl neu mewn perthynas: os gallwch chi gynnig amgylchedd diogel a sefydlog, gallwch chi faethu.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Gallwch. Dydy eich hunaniaeth o ran rhywedd ddim yn effeithio ar fod yn rhiant maeth da. Yr hyn sy’n bwysig yw eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch natur ofalgar.

alla i faethu os ydw i’n LGBTQ+?

Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ffactor. Y peth pwysicaf yw bod gennych chi’r ymrwymiad i fod yn berson sy’n gofalu ac yn gwrando, ac yn berson sy’n gallu cynnig lle diogel i blentyn.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Dydy cael unrhyw fath o anifail anwes ddim yn golygu na allwch chi faethu. Byddwn ni’n cynnwys eich anifeiliaid anwes yn eich asesiad. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn sicrhau y byddan nhw a’ch plentyn maeth yn cyd-dynnu’n dda.

Gall anifeiliaid anwes fod yn fanteisiol iawn i deulu maeth. Maen nhw’n gallu cynnig math arall o gymorth defnyddiol, a math gwahanol o gyfeillgarwch. Rydyn ni’n cydnabod hynny a dyna pam dydyn nhw ddim yn rhwystr i faethu.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Fydd ysmygu, gan gynnwys e-sigaréts, ddim yn eich atal rhag maethu ond fe all effeithio ar ba blant y gallwch chi agor eich cartref iddyn nhw. Y peth pwysicaf yw eich bod chi’n onest. Rydyn ni’n cynnig arweiniad ar sut i roi’r gorau i ysmygu, os hoffech chi. Ym mhob achos, mae’n golygu dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Rydyn ni’n deall bod gwaith yn gallu bod yn gyfnewidiol. Fel rhiant maeth, yr hyn sy’n bwysig yw bod yno i gynnig cymorth ac arweiniad pan fydd eu hangen ar blentyn. Felly, os ydych chi’n ddi-waith ar hyn o bryd, dydy hyn ddim yn rheswm i chi beidio â chymryd eich camau cyntaf i fod yn ofalwr maeth. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i wneud yn siŵr mai dyma’r amser iawn i chi faethu.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Gallwch – does dim angen tŷ mawr arnoch chi i faethu. Mae pob cartref maeth yn wahanol, ac wedi’r cyfan dyna sut dylai fod. Does dim angen tŷ enfawr arnoch i faethu plentyn, ond mae angen ystafell sbâr arnoch chi lle gall y plentyn deimlo’n ddiogel ac yn gartrefol.

rhagor o wybodaeth am faethu

mathau o faethu

Gallwch chi wneud gwahaniaeth mewn cymaint o ffyrdd. Boed yn ddiwrnod, yn wythnos, yn fis, yn flwyddyn neu hyd yn oed yn hirach. Gallwch newid bywyd plentyn er gwell.

dysgu mwy
Woman helping young girl with homework

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael yma.

dysgu mwy
Adult with teenage boy in kitchen making food together

manteision a chymorth

Mae maethu’n rhoi boddhad mewn sawl ffordd. Dyma beth rydyn ni’n ei gynnig.

dysgu mwy
Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Bro Morgannwg yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.