pam maethu gyda ni?
pam ein dewis ni?
pam ein dewis ni?
Mae Maethu Cymru Bro Morgannwg yn wahanol i unrhyw asiantaeth faethu arall. Rydyn ni’n canolbwyntio ar bobl, dim elw. Rydyn ni’n rhan o rwydwaith cenedlaethol sy’n cynnwys holl dimau maethu Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Pan fyddwch yn ein dewis ni, rydych yn dewis pwrpas ac ymroddiad. Rydyn ni wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, ac i weithio fel tîm. Y cysylltiad agos hwn yw’r hyn sy’n ein galluogi ni i greu’r dyfodol gorau posibl i blant lleol, gan eu helpu i aros yn eu hardal leol pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.
Yr hyn sydd bwysicaf i ni yw gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant lleol. Ac allwn ni ddim gwneud hynny heb bobl fel chi.
ein cenhadaeth
Mae yna blant ar draws Bro Morgannwg sydd ein hangen ni. Maen nhw eich angen chi hefyd.
Rydyn ni’n chwilio am bob math o ofalwyr maeth. Mae’r plant yn ein gofal i gyd yn unigryw – pobl ifanc yn eu harddegau, plant bach, babanod, brodyr a chwiorydd a rhieni ifanc hefyd.
Mae’r genhadaeth ar gyfer pob plentyn yr un fath. Beth bynnag fo’u hoedran neu eu gorffennol, ein nod yw newid cwrs eu dyfodol.
ein cymorth
Mae Maethu Cymru Bro Morgannwg yn rhwydwaith cymorth lleol a chyflawn sydd ar gael i chi bob amser. Rydyn ni’n eich cefnogi chi a’r plant yn ein gofal.
Byddwn ni gyda chi ar bob cam o’ch taith faethu. Byddwch yn elwa o’n harbenigedd, ein hyfforddiant a’n cyngor i ddiwallu eich anghenion maethu.
ein ffyrdd o weithio
Rydyn ni’n gweithio gyda theuluoedd maeth ar draws Bro Morgannwg i greu dyfodol gwell i blant lleol. Mae cysylltu a chydweithio’n rhan ganolog o bopeth y mae Maethu Cymru yn ei wneud.
Rydyn ni wrth law i helpu bob amser. Dydyn ni byth yn bell i ffwrdd. Rydyn ni’n rhan o’ch cymuned a’ch bywyd bob dydd.
Ein rôl ni yw helpu i ddatblygu ac ehangu eich sgiliau, er mwyn i chi fod y gorau y gallwch chi fod. Mae hyn yn golygu dathlu eich doniau presennol a phopeth sy’n eich gwneud chi’n unigryw, a llunio cwrs ar gyfer eich dyfodol. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi, er mwyn i chi allu gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl.
eich dewis
Pan rydych chi’n dewis Maethu Cymru Bro Morgannwg, rydych chi’n dewis gweithio gyda phobl sy’n gofalu. Pobl ymroddedig sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig. Pobl sy’n byw yn eich ardal chi. Pobl go iawn sy’n deall bywyd ym Mro Morgannwg ac sydd wedi buddsoddi yn ei phobl ifanc.
Cymerwch y cam cyntaf tuag at fod yn ofalwr maeth drwy gysylltu â ni heddiw.