stori

sian

Mae Sian a’i phartner yn rhieni balch i fachgen 5 oed a gefeillesau sy’n 22 mis oed. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi creu cartref prysur, cariadus llawn bywyd, chwerthin, ac anifeiliaid.

Maen nhw hefyd wedi bod yn ofalwyr maeth ers pum mlynedd – taith sydd wedi dod â heriau a buddion anhygoel. Yn ogystal â bod yn ofalwr maeth, mae Sian hefyd yn gofalu am ei mam ac mae ganddi angerdd mawr am anifeiliaid, yn enwedig ceffylau.

“Rydyn ni’n deulu hwyliog a phrysur iawn, sydd wrth ein bodd yn treulio amser yn yr awyr agored ar y fferm, yn marchogaeth ac yn creu atgofion gyda’n gilydd.”

Canfod buddion maethu

Pan mae Sian yn siarad am faethu, mae’n amlwg faint mae’n ei olygu iddi hi a’i theulu.

“Byddwn i’n dweud mai’r peth mwyaf gwerth chweil am fod yn ofalwr maeth yw cael cyfle i ddarparu sefydlogrwydd a chariad. Yn ogystal â gallu datblygu perthynas ystyrlon nid yn unig â’r plentyn rwy’n gofalu amdano ond â’r bobl eraill sy’n gysylltiedig. Yn olaf, twf i fi fy hun gan ei fod wedi dysgu sgiliau newydd i fi ac wedi dod â sgiliau i’r amlwg nad oeddwn i’n sylweddoli eu bod nhw gen i. Hefyd, twf i’r plant – ei weld yn newid ac yn tyfu yn ystod yr amser mae wedi bod gyda fi.”

I Sian, mae maethu nid yn unig wedi rhoi cyfle iddi wneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn, ond mae hefyd wedi ei helpu i ddysgu mwy amdani hi ei hun a’i chryfderau.

Cefnogaeth ar hyd y ffordd

Fel llawer o ofalwyr maeth, mae Sian wedi canfod bod y gefnogaeth gywir yn gwneud byd o wahaniaeth.

“Y gefnogaeth fwyaf gwerthfawr rydw i wedi’i chael yn ystod fy nhaith maethu yw’r cysylltiad â gofalwyr maeth eraill rydw i wedi cwrdd â nhw ar hyd y ffordd. Mae gallu rhannu profiadau, cyngor ac anogaeth gyda phobl sydd wir yn deall yr heriau a’r buddion wedi gwneud cymaint o wahaniaeth.

Rydw i hefyd wedi gwerthfawrogi’r hyfforddiant a’r arweiniad gan fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn fawr iawn – mae cael rhywun i droi ato am sicrwydd wedi bod yn amhrisiadwy. Yn anad dim, mae’r gefnogaeth emosiynol gan ffrindiau a theulu, sy’n fy atgoffa i ofalu am fy hun hefyd, wedi fy helpu i aros yn gryf ac yn gadarnhaol.”

Mae’r cysylltiadau hyn – gyda gofalwyr eraill, gweithwyr proffesiynol ac anwyliaid – wedi rhoi’r hyder a’r anogaeth i Sian barhau i wneud gwahaniaeth.

Cyngor Sian i ofalwyr maeth newydd

I unrhyw un sy’n ystyried maethu, mae neges Sian yn llawn gonestrwydd ac anogaeth.

“Fy nghyngor i rywun sy’n ystyried maethu fyddai mynd ati gyda chalon agored a disgwyliadau realistig. Mae maethu yn rhoi cymaint o foddhad, ond mae hefyd yn dod â heriau. Mae amynedd, dealltwriaeth a hyblygrwydd yn hanfodol. Manteisiwch ar yr holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael. Peidiwch â bod ofn gofyn am help pan fydd ei angen arnoch. Mae adeiladu rhwydwaith cryf gyda gofalwyr maeth eraill a’ch gweithwyr cymorth yn gwneud byd o wahaniaeth. Yn bwysicaf oll, cofiwch mai’r hyn sydd ei angen fwyaf ar blant yw amgylcheddau diogel, cyson a chariadus – gall hyd yn oed gweithredoedd bach o ofal gael effaith sylweddol ar eu bywydau. Hyd yn oed os nad ydynt yn golygu llawer i chi, maen nhw’n golygu llawer iddyn nhw.”

Mae ei chyngor yn ein hatgoffa mai gofal, amynedd a chariad yw hanfod maethu – a’r momentau bach yn aml iawn yw’r rhai pwysicaf.

Safbwynt newydd am deulu

Mae maethu wedi newid y ffordd mae Sian yn gweld teulu a pherthnasoedd am byth.

“Mae maethu wedi newid y ffordd rwy’n gweld teulu a pherthnasoedd yn llwyr. Mae wedi dangos i mi nad yw teulu yn ymwneud â gwaed yn unig; mae’n ymwneud â chariad, ymddiriedaeth ac ymrwymiad. Rydw i wedi dysgu bod modd meithrin perthnasoedd mewn cymaint o wahanol ffyrdd, a bod hyd yn oed eiliadau bach o ofal yn gallu creu cysylltiadau dwfn. Mae maethu hefyd wedi fy helpu i werthfawrogi gwydnwch plant a phwysigrwydd amynedd a dealltwriaeth wrth feithrin ymddiriedaeth. Mae wedi rhoi meddwl mwy agored i fi ac wedi fy ngwneud yn fwy tosturiol a diolchgar am y cysylltiadau rydyn ni’n eu rhannu – sut bynnag maen nhw’n dod at ei gilydd.”

Trwy faethu, mae Sian a’i theulu wedi darganfod bod cariad a theulu yn dod ar sawl ffurf – a bod cynnig cartref diogel a gofalgar yn wir yn gallu newid bywydau, gan gynnwys eu bywydau eu hunain.

Os yw stori Sian wedi eich ysbrydoli, cysylltwch â ni yma i gael sgwrs gyfeillgar ac anffurfiol am faethu.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Bro Morgannwg yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.