Mae Sharon Thomas, gofalwr maeth o Fro Morgannwg wedi cael gwahoddiad i dderbyn MBE yng Nghastell Windsor 15 Mawrth.
Bydd Sharon, ynghyd â’i gŵr David, yn mynychu’r digwyddiad brenhinol i gydnabod dros 31 mlynedd fel gofalwr maeth gyda’i hawdurdod lleol, Maethu Cymru Bro Morgannwg.
“Fe dderbyniais e-bost yn ystod COVID, ac roeddwn i’n meddwl mai twyll oedd e, gan nad yw pethau fel hyn yn digwydd i bobl gyffredin fel fi. Alla i ddim aros.”
Ym 1991, cyfarfu Sharon, yr oedd yn gweithio gyda’r henoed bryd hynny, â gofalwr maeth a’i hysbrydolodd i ddefnyddio ei hystafell wely sbâr i helpu plant lleol, a dydy hi ddim wedi troi’n ôl ers hynny.
“Mae’n waith sy’n rhoi boddhad mawr i mi. Nid yw’n hawdd, ond ni fyddwn yn ei newid am y byd.”
Fel gofalwyr maeth gyda’u hawdurdod lleol, mae Sharon a’i gŵr David yn gofalu am bobl ifanc yn bennaf.
“Mae problemau gydag alcohol, cyffuriau ac emosiynau; mae’n rhaid i chi fod yn amyneddgar iawn a gwrando. Mae’n rhaid i chi eu meithrin, waeth pa oedran ydyn nhw, maen nhw i gyd yn chwilio am gariad.”
Esboniodd Sharon fod angen i ofalwyr maeth fod yn anfeirniadol ac yn barod i dderbyn, ac ychwanegodd ymadrodd hyfryd, “nid ydym i gyd yn dod o’r un esgid”
Y cyngor byddai Sharon yn ei gynnig i unrhyw un sy’n ystyried maethu yw mynychu hyfforddiant.
“Mae’r hyfforddiant yn rhoi’r adnoddau cywir i chi i helpu pobl ifanc”
Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru, “Llongyfarchiadau i Sharon a David. Mae’n wych gweld gofalwyr maeth ein hawdurdod lleol yng Nghymru yn cael eu cydnabod am y rôl bwysig y maent yn ei chwarae wrth roi dyfodol gwell i bobl ifanc. Rydym yn gobeithio y byddant yn cael diwrnod gwych.”
Mae Sharon yn dweud y bydd hi’n trysori’r foment hon am weddill ei hoes.