Yn 63 mlwydd oed, mae gofalwr sengl, Muriel wedi bod yn maethu ers saith mlynedd. Dyma ei stori hi.
“Ers o’n i’n 16 oed, ro’n i’n gwybod bod maethu yn rhywbeth hoffwn i ei wneud.
Gan fy mod i’n dod o gefndir tebyg i lawer o blant mewn gofal maeth, roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth a sicrhau nad yw plant yn mynd trwy’r hyn es i drwyddo.”
Mae’n bwysig ymgymryd â maethu pan fo’n amser iawn i chi a thrafod y posibilrwydd gyda’ch teulu i sicrhau eu bod hefyd yn hapus.
Wedi i dri mab hŷn Muriel symud allan ac ar ôl iddi ymddeol o’r gwasanaeth iechyd yn 55 oed, penderfynodd mai dyna’r amser iawn iddi hi a’i theulu.
“Byddwn i ar goll heb faethu – mae’n rhoi cymaint o bleser i fi.
Rwy’n mwynhau mynd â’r plant allan i lefydd dydyn nhw erioed wedi bod neu wedi cyfle i brofi.
Mae’n pethau syml, fel gweld eu hwynebau’n goleuo pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth iddyn nhw, yn aml rhywbeth bach, fel pâr newydd o byjamas.
Mae’n cadw fi’n brysur ac yn rhoi cyfleoedd i fi gwrdd â phobl newydd.”
Pan fyddwch chi’n dod yn ofalwr maeth, byddwch chi’n dod yn rhan o gymuned. Mae gan Maethu Cymru Bro Morgannwg sawl grŵp cymorth lle gall gofalwyr maeth cyfagos gyfarfod a ffurfio system gymorth i’w gilydd, boed hynny’n trafod pryderon neu’n rhoi cyngor.
“Er bod y daith mor anodd yn y dechrau, mae’n brofiad anhygoel ac yn rhoi cymaint yn ôl i chi.
Rydych chi’n cwrdd â gymaint o wahanol weithwyr proffesiynol a gofalwyr maeth.
Os oes angen help arnoch chi, gallwch chi ffonio’r gweithiwr cymdeithasol sy’n eich cefnogi neu hyd yn oed estyn allan i’r rheolwyr neu weithwyr heblaw gweithwyr cymdeithasol yn y tîm fel Alex – mae hi’n anhygoel a bob amser yn barod i fy helpu.”
Mae gan Maethu Cymru dîm agos-atoch sydd bob amser ar gael i’ch cefnogi. Fel awdurdod lleol, rydym gyda chi ar bob cam o’ch taith faethu.
I gysylltu â’n tîm cyfeillgar, cysylltwch â ni yma.