stori

rachael

Ar ôl cael ei magu mewn teulu maeth, penderfynodd Rachael, sy’n weithiwr cymdeithasol, ddod yn ofalwr maeth swyddogol wyth mlynedd yn ôl. Dyma ei stori hi.

Beth ysgogodd dy ddiddordeb mewn maethu?

“Ges i fy magu mewn teulu maeth. Rydw i hefyd yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig i Gyngor Caerdydd. Roedd dod yn weithiwr cymdeithasol a gofalwr maeth ill dau wedi’u hysbrydoli gan fy mam. Roeddwn yn rhoi cymorth a seibiant iddi, felly mae wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd.”

Oedd unrhyw beth yn dy ddal di’n ôl wrth ystyried maethu am y tro cyntaf?

“I mi, un o’r pethau oedd ceisio gwneud fy ngwaith fel gweithiwr cymdeithasol a maethu. Oherwydd roedd hi’n gallu bod yn anodd bod ar ddwy ochr y ffens. Gweithio’n llawn amser mewn capasiti gwaith cymdeithasol a cheisio cydbwyso hynny â bod yn ofalwr maeth. Roeddwn i’n poeni am sicrhau bod gan y plant yr hyn sydd ei angen arnynt a chael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.”

Camsyniad cyffredin o faethu yw na allwch weithio’n llawn amser a bod yn ofalwr maeth. Mae stori Rachael yn dangos ei bod yn bosib, ac mae’r awdurdod yn croesawu ymgeiswyr sy’n gweithio’n llawn amser. Mae’r broses yn ymwneud ag a ydych chi’n teimlo y gallwch chi.

Sut mae maethu yn ffitio o amgylch dy fywyd gwaith?

“Mae’r awdurdod lleol yn fy nghefnogi’n dda iawn. Dydw i ddim yn credu y gallwn fod yn ofalwr maeth heb ei gefnogaeth. Mae cael rhywfaint o gefnogaeth gan fy nheulu a ffrindiau yn fy helpu i hefyd, os yw plentyn yn sâl neu fy mod i angen gwarchodwr am awr neu ddwy maen nhw’n gallu fy helpu gyda hynny. Mae’r awdurdod lleol yn fy nghefnogi’n ymarferol gyda gofal plant hefyd.”

Mae’n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, rydyn ni yma i’ch cefnogi ar bob rhwystr. Fel awdurdod lleol, mae gennym dîm profiadol i ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud maethu yn llwyddiant.

Beth mae maethu yn ei olygu i ti?

“I mi, mae’n golygu’r gallu i gynnig cartref diogel i blant. Mae rhoi cariad diamod iddyn nhw a gwneud iddyn nhw deimlo fel rhan o’r teulu yn bwysig iawn i mi. Rydw i’n teimlo braint fy mod i’n gallu cynnig hynny ar sail hirdymor, yn enwedig i blant hŷn oherwydd mae angen gofalwyr arnynt. Rydw i’n teimlo’n falch o allu eu gwahodd nhw i’n cartref.”

Mae nifer o wahanol fathau o faethu, o seibiant i’r tymor hir. Dysgwch beth fyddai’n gweddu orau i’ch ffordd o fyw yma.

Pa gyngor byddet ti’n ei roi i rywun sy’n ystyried maethu?

“I ddod draw a gwrando. Mae’n gymaint mwy hyblyg a chynhwysol na mae pobl yn ei feddwl. Pan fydda i’n cael sgyrsiau cyffredin gyda phobl am faethu, maen nhw’n aml yn cymryd nad oes modd iddyn nhw ei wneud am eu bod yn sengl, maen nhw’n ysmygu, neu wedi bod mewn trafferth fel plentyn ac mae ganddynt gofnod heddlu ac ati. Mae cymaint o gamsyniadau ynghylch a fydden nhw’n cael eu derbyn ai peidio. Byddwn i wastad yn dweud wrth bobl am godi’r ffôn a rhoi cynnig arni. Dydych chi ddim ar eich colled drwy wneud cais. Mae plant wir yn cael budd o bobl y gallent gysylltu â nhw ac sydd â phrofiad bywyd. Peidiwch byth â meddwl nad ydych chi’n ddigon da.”

Os yw stori Rachael wedi eich ysbrydoli i ddysgu mwy, ewch i’r dudalen hon i gysylltu â ni a chael sgwrs anffurfiol am faethu

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Bro Morgannwg yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.