Yn ystod y broses asesu, mae’n bwysig i ni eich bod yn teimlo’n gyfforddus ac yn barod ar gyfer gwahanol agweddau ar y broses. Dyna pam rydym wedi creu rhestr sy’n nodi’r gwiriadau allweddol a wneir ac a allai eich gwneud chi’n anghymwys:
- Gwiriadau cofnodion troseddol
- Profion iechyd
- Geirdaon
- Gwiriadau tramor a milwrol
- Gwiriadau amddiffyn plant
- Cyn-bartneriaid
- Cartref, gardd a’r gymdogaeth
- Aelodau’r aelwyd
- Anifeiliaid anwes
- Sefyllfa ariannol
Gwiriadau cofnodion troseddol
Bydd gofyn i ni gynnal gwiriadau gan yr heddlu ar bawb yn eich cartref sydd dros 16 oed. Byddwn hefyd yn cysylltu â thimau prawf o’r ardaloedd lle rydych wedi byw ynddynt.
Profion iechyd
Gofynnir i chi fynychu apwyntiad meddygol gyda’ch meddyg teulu i sicrhau bod eich iechyd yn ddigon da i ofalu am blentyn.
Geirdaon
Byddwn yn cysylltu â’ch cyflogwr i gael geirda. Bydd angen i chi hefyd ddarparu pedwar geirda personol – rhaid i o leiaf dau ohonynt beidio â bod yn aelodau o’r teulu.
Gwiriadau tramor a milwrol
Os ydych wedi bod yn byw dramor ar unrhyw adeg yn eich bywyd, neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, byddwn wedyn yn cysylltu â’r awdurdodau perthnasol
Amddiffyn plant
Byddwn yn cynnal ein gwiriadau cronfa ddata fewnol ein hunain i weld a ydych wedi cael unrhyw gysylltiad blaenorol â’r gwasanaethau cymdeithasol. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu ag ysgolion eich plant i wirio eu presenoldeb a’u hymrwymiad i addysg.
Cyn-bartneriaid
Rydym yn gorfod dilyn rheolau llym a chymryd manylion cyswllt ar gyfer unrhyw gyn-bartneriaid sylweddol. Mae hyn er mwyn i ni allu cysylltu â nhw i gynnal gwiriadau trais domestig. Gallwn benderfynu peidio â gwneud hyn os gallwch ddarparu tystiolaeth sylweddol y byddai hyn yn achosi gofid neu fygythiad i’ch teulu.
Cartref, gardd a’r gymdogaeth
Bydd eich tŷ a’ch ardal leol hefyd yn cael eu hasesu ar gyfer diogelwch, cyfleusterau a mynediad at ysgolion. Rhaid i byllau gardd a nodweddion dŵr fod â gorchudd neu grid plastig diogel parhaol os byddwch chi’n maethu plant dan 8 oed.
Anifeiliaid anwes
Bydd unrhyw anifeiliaid anwes yn y cartref hefyd yn cael eu hasesu er diogelwch, er mwyn sicrhau nad oes perygl i’r plentyn. Ni fydd unrhyw ymgeiswyr sydd â chŵn sydd wedi’u dosbarthu o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 yn cael eu hystyried. Mae cŵn peryglus yn cynnwys Pit Bull Terrier, Tosa Japan, Dogo Argentino a Fila Braziliero.
Sefyllfa ariannol
Trafodir incwm y teulu a’r treuliau i’ch helpu i asesu’r arian sydd ynghlwm.