stori

nicola

Mae Nicola wedi bod yn ofalwr maeth ers 9 mlynedd.  Roedd hi’n gwybod ei fod yn rhywbeth yr oedd hi eisiau ei wneud ers pan oedd hi’n 18 oed.  Ar ôl bod yn berchen ar ddau fusnes llwyddiannus, cael gyrfa mewn nyrsio a dechrau ei theulu ei hun, penderfynodd mai dyma’r amser cywir. Unwaith roedd hi’n teimlo bod ei phlant genedigol yn ddigon hen, fe wnaeth y cam hwnnw.  Mae hi bob amser wedi ymwneud â phlant gyda bywyd teuluol mawr a gweithgar.  Mae Nicola wedi maethu plant o gefndiroedd ac oedrannau amrywiol – ar hyn o bryd mae’n maethu babanod ac yn cynnig seibiant.

Beth ysgogodd eich diddordeb mewn maethu i ddechrau?

“Dwi wastad wedi ymwneud â phlant ac wedi bod yn famol iawn. Yn fy swydd gyntaf erioed cwrddais â dynes oedd yn maethu ar gyfer yr awdurdod lleol. Fe wnes i greu perthynas gyda llawer o’r plant yr oedd hi’n gofalu amdanynt. Dwi’n cofio meddwl i fi fy hun – am swydd anhygoel. Un diwrnod, dwi’n mynd i wneud hynny a gwneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn.”

A oedd unrhyw beth yn eich dal yn ôl? Os felly, sut ydych chi’n teimlo am hynny nawr?

“Roedd y llwybr a gymerodd fy mywyd gyda rhedeg fy musnesau a magu fy mhlant yn golygu nad oedd gen i’r amser i faethu. Roeddwn i eisiau maethu’n llawn amser, felly penderfynais aros nes bod fy mhlant yn hŷn a chefais fwy o amser rhydd. Roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i’n mynd i gael rhagor o fy mhlant fy hun ac roeddwn i eisiau rhoi i’r plant eraill y bywyd yr oeddwn wedi gallu ei gynnig i  fy mhlant fy hun. Roedd yn rhaid i mi fod yn sicr mai dyma’r amser iawn i mi a fy nheulu.”

Mae pob teulu yn wahanol ac mae’n bwysig maethu pan fydd yr amser yn iawn i’ch teulu. Mae’n bwysig trafod maethu gyda’ch teulu pan fyddwch chi’n teimlo’n barod. Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin yma  i ddysgu am faethu a sut mae’n effeithio ar deuluoedd.

Sut mae maethu yn gweddu i ymrwymiadau eich bywyd?

“Fe wnes i roi’r gorau i’m swydd fel gweinyddes feithrin i fod yn ofalwr maeth ymroddedig, llawn amser fel y gallwn ymrwymo 100% i’r plentyn.”

Mae llawer o wahanol fathau o faethu a all fod yn hyblyg a gweithio o’ch cwmpas. Os ydych am barhau i weithio’n llawn amser ac yn poeni am beidio â chael digon o amser i faethu, ewch i’n tudalen yma i ddysgu am y gwahanol fathau o faethu.

“Ar y dechrau, roeddwn i’n poeni sut fyddai fy mhlant yn ymateb. Fodd bynnag, pan ofynnais iddynt sut y byddent yn teimlo am y peth, fe wnaethant fy ngwthio i fynd amdani gan eu bod yn gwybod y byddai’n rhywbeth y byddwn wrth fy modd yn ei wneud ac yn ffynnu ynddo.  Mae fy mhlant wrth eu bodd yn maethu cymaint â fi, ac mae wedi eu helpu i dyfu.  Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau oherwydd nad ydyn nhw’n cymryd unrhyw beth yn ganiataol. Maent yn deall y byd ychydig yn well ac mae ganddynt gymaint o ddealltwriaeth ac empathi tuag at eraill.”

Pan fyddwch yn penderfynu maethu, byddwch yn dod yn deulu maethu ac mae cymaint o fuddion y gall maethu eu cael ar eich plant biolegol.

“Mae’r plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw wir yn dod yn rhan o’ch teulu.  Rwy’n dal i fod mewn cysylltiad â phlant sydd wedi symud ymlaen i gael eu mabwysiadu, felly rwy’n dal i gael cyfle i’w gwylio’n ffynnu. Dwi dal yn ‘Aunty Nicki’ iddyn nhw!”

Mae’n gyffredin iawn cadw mewn cysylltiad â phlant sydd wedi symud ymlaen, fel y gallwch weld y gwahaniaeth a wnaethoch ar fywyd plentyn. Gwneud y cyfan yn fwy gwerth chweil!

Beth mae maethu yn ei olygu i chi?

“Fel teulu, rydyn ni’n cael cyfle i gwrdd â phlant o bob math o gefndiroedd.  Gallwn eu caru a gofalu amdanynt fel pe baent yn blant i chi a’u gwylio’n ffynnu. Mae pob plentyn yn haeddu cael ei garu a’i annog. Mae gwneud gwahaniaeth i fywyd un plentyn yn unig yn ei wneud yn werth chweil.”

“Nid yw’r cyfan yn daith hawdd, mae yna adegau anodd.  Fodd bynnag, mae’r gwobrwyon yn drech na’r  amseroedd heriol.  Dyma’r swydd orau y gallwn i ofyn amdani.”

Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried maethu?

“Ewch amdani! Hanner y frwydr yw cymryd y cam cyntaf hwnnw. Os ydych chi’n ei ystyried, mae’n rhaid i chi fod yn ymroddedig ac yn ymrwymedig.  Y plant ddylai fod yn gymhelliant i chi a dim byd arall.”

Rydym yn deall y gallwch deimlo’n nerfus wrth wneud y cyswllt cyntaf hwnnw, mae gennym dîm ymroddedig fydd yn eich cefnogi drwy’r broses. Hyd yn oed os ydych eisiau sgwrs anffurfiol am faethu i gael mwy o wybodaeth, rydym yma i helpu.

“Rydych yn cael cymaint o gefnogaeth gan yr awdurdod lleol.  Mae gennych eich gweithiwr cymdeithasol eich hun a byddwch yn dod i adnabod gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn eich gofal. Rydych chi wir yn dod yn rhan o’r tîm sy’n cefnogi’r plentyn.  Mae’r awdurdod lleol yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r rheolwyr tîm a’r gofalwyr maeth, felly cewch gyfle i gwrdd â phawb a bydd eich llais yn cael ei glywed. Nid yn unig y cewch help gan y tîm, ond mae gennych chi hefyd grŵp anhygoel o ofalwyr maeth o’ch cwmpas.  Rydym wedi creu cysylltiadau agos a rhwydwaith cefnogi.  Mae yna bob amser rhywun ar ben arall y ffôn yn barod i helpu pan fyddwch mewn angen, neu ddim ond angen clust i wrando.  Mae maethu wedi creu ail deulu i mi.”

Os yw stori Nicola wedi eich ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf hwnnw, cysylltwch â ni i gael sgwrs gyfeillgar am faethu.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Bro Morgannwg yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.