Mae Rich a Tania yn eu 50au. Maen nhw’n maethu dau blentyn yn eu cartref yn y Fari – merch yn ei harddegau hwyr a bachgen iau.
y teulu maeth
Mae Rich a Tania wedi bod yn briod ers 13 mlynedd ac mae gan y ddau blant eu hunain o’u perthnasoedd blaenorol. Maen nhw wedi maethu gyda’i gilydd ers dros ddeng mlynedd, gan ddarparu gofal a chariad i nifer o blant lleol.
“I ni, doedd hi ddim yn teimlo’n iawn i fynd lawr y llwybr o gael mwy o blant ein hunain ond roedden ni’n gwybod bod gennym gymaint mwy o gariad i’w roi. Felly, edrychon ni ar faethu yn lle hynny a chysyllton ni â thîm maethu ein Hawdurdod Lleol. Mae wedi rhoi cyfle i ni ofalu a meithrin eto.”
Mae Rich a Tania wrth eu bodd yn bod yn rhan o dîm Maethu Cymru Bro Morgannwg. Rydyn ni wastad wedi bod yno iddyn nhw, pryd bynnag yr oedd angen cymorth arnynt.
“O’r pethau mawr fel yr hyfforddiant ffurfiol, i pethau bach fel bod ar ben arall y ffôn neu alw draw pan fyddwn ni’n cael diwrnod gwael, maen nhw bob amser yma i ni.”
“mae angen cartref diogel arnyn nhw, ond maen nhw hefyd angen cyfle i fod yn blant.”
Nid oedd Rich a Tania yn siŵr beth i’w ddisgwyl wrth gofrestru i fod yn ofalwyr maeth am y tro cyntaf, ond ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae wedi newid popeth. . Maen nhw bellach yn fwy ymroddedig nag yr oeddent erioed yn meddwl y byddent.
“Rwy’n meddwl ein bod ni ychydig yn naïf i ddechrau – roedden ni’n meddwl y gallen ni helpu gwahanol blant a oedd angen cartref am ychydig fisoedd, heb ymrwymo i unrhyw beth yn y tymor hir. Ond wedyn fe wnaethon ni gwrdd â Charlie ac mae hi wedi bod gyda ni ers hynny.”
Aeth Charlie at Tania a Rich am y tro cyntaf pan oedd hi’n saith oed; mae hi’n 17 nawr. I ddechrau, roedd hi’n swil ac yn ddagreuol, ond nawr mae hi wir yn ffynnu. Mae Tania a Rich yn gwybod ei bod yn fwy na darparu cartref yn unig.
“O’r diwrnod cyntaf rydyn ni wedi rhoi cartref cynnes i Charlie gyda bwyd da ar y bwrdd a threfn reolaidd. Ond mae’n rhaid i chi wneud pethau’n hwyl hefyd, roedd angen cartref diogel arni ond hefyd y cyfle hwnnw i fod yn blentyn. Yr un peth gyda’r bachgen ifanc sy’n byw gyda ni nawr, sy’n ein cadw’n brysur!”
“mae’n fraint gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl”
Yn y pen draw, mae maethu’n ennyn y gorau o bawb – a dyna’n union sut dylai fod.
“Rydyn ni mor ddiolchgar i dîm maethu Awdurdod Lleol Bro Morgannwg am roi cyfle i ni fod yn deulu maeth. Mae’n fraint gwneud gwahaniaeth i fywydau’r plant hyn. Rwy’n hoffi meddwl ei fod wedi dod â’r gorau allan ohonof fi hefyd.”
hoffech chi ddod yn deulu maeth?
Os yw ymrwymiad Rich a Tania i faethu wedi eich ysbrydoli chi i gymryd y camau cyntaf tuag at fod yn ofalwr maeth eich hun, hoffem glywed gennych chi. Cysylltwch â ni heddiw a gallwn ddechrau ar bennod newydd yn eich bywyd.
hoffech chi ddysgu mwy?
Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.
Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.