Blog

maethu gyda’r awdurdod lleol

Rydym wedi bod yn maethu ers ychydig dros flwyddyn gyda Maethu Cymru Bro Morgannwg, ond dechreuodd ein taith fel gofalwyr maeth dair blynedd a hanner yn ôl. Cyn trosglwyddo, roeddem gydag asiantaeth faethu annibynnol (AFA), ond roedd symud i’r awdurdod lleol yn teimlo fel y penderfyniad cywir – i ni ac i’r plant rydyn ni’n gofalu amdanynt.

pam wnaethon ni ddewis maethu

Roedd dod yn ofalwyr maeth yn rhywbeth roeddwn i bob amser wedi breuddwydio amdano. Ar ôl i’n dau blentyn hynaf symud allan, roedd yr amser yn teimlo’n iawn i ddilyn y nod hwnnw. Rwyf bob amser wedi gweithio gyda phlant, ac roedd y ddau ohonom eisiau gwneud rhywbeth a fyddai’n rhoi yn ôl i gymdeithas. Roedd maethu yn ymddangos fel cam naturiol – ffordd o agor ein cartref a’n calonnau i blant sydd angen sefydlogrwydd a gofal.

trosglwyddo i faethu gydag awdurdod lleol

Er ein bod wedi dysgu llawer yn ystod ein blynyddoedd maethu cynnar, roeddem yn gwybod bod angen newid. Nid oeddem yn fodlon bod yr asiantaeth faethu yn rhoi’r lefel lawn o gefnogaeth yr oedd ei hangen ar y plant, na bod y cyllid bob amser yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Mae symud i’r awdurdod lleol wedi bod yn ddechrau newydd, a dydyn ni ddim wedi edrych ‘nôl.

maethu fel teulu

Pan ddechreuon ni faethu, dim ond 11 oed oedd ein mab. Mae gwylio sut mae wedi tyfu trwy’r profiad hwn wedi bod yn anhygoel. Ar un adeg yn frawd ieuengaf swil, mae bellach wedi blodeuo i fod yn fachgen direidus, chwareus sydd wedi cofleidio ei rôl fel brawd mawr. Mae maethu wedi ei drawsnewid e cymaint ag y mae wedi cyfoethogi ein bywydau ni.

cefnogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth

Un o’r newidiadau mwyaf rydyn ni wedi sylwi arno ers ymuno â chyngor Bro Morgannwg oedd lefel y gefnogaeth. Os oes angen hyfforddiant arnaf ar bwnc penodol i gefnogi plentyn yn well, mae fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn fy helpu i’w gyflawni. Mae’r gefnogaeth yn ymarferol, wedi’i thargedu ac yn ymatebol. O weithwyr cymdeithasol y plant i’r tîm CLA, mae pawb wedi bod yn wych. Mae’n gysur gwirioneddol gwybod os ydw i’n codi’r ffôn, mae rhywun yno i wrando arnaf a’m tywys.

yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd

Mae maethu wedi newid y ffordd rydyn ni’n gweld y byd. Nid dim ond helpu plant rydyn ni’n ei wneud, ond rydyn ni’n adeiladu teuluoedd hefyd. Gall gweithredoedd bach a allai deimlo’n gyffredin i ni wneud byd o wahaniaeth i’r plant yn ein gofal. Rydyn ni wedi ymestyn ein teulu yn y ffordd fwyaf prydferth, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r eiliadau – mawr a bach – rydyn ni’n eu rhannu gyda’n gilydd.

edrych tua’r dyfodol

Mae ein gobaith ar gyfer pob plentyn sy’n dod i’n cartref yn syml: ei fod yn tyfu i fod pwy bynnag y mae eisiau bod. Rydyn ni eisiau iddyn nhw ffynnu, gwireddu eu breuddwydion, a gwybod na all neb ddweud wrthyn nhw na allant gyflawni rhywbeth.

Nid yw maethu bob amser yn hawdd, ond mae’n werth chweil. Mae’r heriau yno, wrth gwrs, ond mae’r elfennau cadarnhaol yn drech na nhw. Os ydych chi erioed wedi ystyried maethu, mae ein cyngor yn syml: ewch amdani. Fyddwch chi ddim yn gwybod a yw ar eich cyfer chi nes i chi roi cynnig arni – a gallai newid eich bywyd chi, a bywyd plentyn, am byth.

👉 Allech chi gynnig cartref diogel a chariadus i blentyn? Os hoffech ddysgu mwy am faethu gyda Maethu Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Ydych chi’n byw ym Mro Morgannwg? Anfonwch neges aton ni a byddwn ni’n ymateb cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych chi’n byw rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers