Blog

maethu rhieni a phlant

Cadw teuluoedd gyda’i gilydd pan fyddan nhw angen hynny fwyaf

Nid pob rhiant sy’n cael y cymorth a’r ymdeimlad o ddiogelwch a sefydlogrwydd sydd ei angen ar deulu.

I rai mamau a thadau, gall yr wythnosau cyntaf pwysig gyda’u babi deimlo’n llethol ac yn ansicr. Gallen nhw fod yn ifanc, ynysig, neu’n wynebu heriau sy’n gwneud rhianta yn anoddach nag y bydden erioed wedi’i ddychmygu.

Dyna lle mae maethu rhieni a phlant yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

Nid mater dim ond o gynnig ystafell sbâr mohono.
Mae’n ymwneud yn hytrach â chynnig sicrwydd pan fydd rhiant yn codi i fwydo’r babi am 2am, rhoi arweiniad ysgafn, a lle diogel lle gall rhieni ddysgu, tyfu a chredu ynddyn nhw eu hunain.

Yn anad dim, mae’n fater o gadw teuluoedd gyda’i gilydd.

Cartref llawn amynedd, nid beirniadaeth

Rydyn ni wedi bod yn siarad ag un o’n gofalwyr maeth profiadol am eu rhesymau dros ddewis maethu rhiant a phlentyn.

“Roedden ni eisiau rhoi pob cyfle i rieni lwyddo.

Mae rhai o’r rhieni rydyn ni’n cwrdd â nhw yn rhai na chafodd fodelau rôl cadarnhaol eu hunain. Os gallwn ddangos iddyn nhw sut beth yw amgylchedd teuluol heddychlon gofalgar, gall newid popeth – nid dim ond iddyn nhw, ond i’w babi hefyd.”

Mae maethu rhieni a phlant yn caniatáu i ofalwyr gefnogi rhieni tra bod asesiadau’n digwydd, gan eu helpu i feithrin hyder a sgiliau rhianta bob dydd – o fwydo a threfniadau dyddiol i greu bondiau emosiynol.

Eiliadau bach sydd fwyaf pwysig.
Gair o gysgu.
Mwynhau paned gyda’ch gilydd. Rhywun yn dweud, “Rydych chi’n gwneud yn dda iawn.”

Y lleoliad cyntaf bythgofiadwy
Y profiad cyntaf fydd gyda nhw am byth.

“Gofynnwyd i ni ofalu am babi, mam y babi a mam-gu’r babi, er mwyn i’r teulu allu aros gyda’i gilydd tra bod cynlluniau’n cael eu gwneud.  Roedd yn lleoliad mor arbennig.  Roedd eu gwylio yn eu cefnogi ei gilydd ac yn tyfu mewn hyder yn anhygoel.

Maen nhw’n dal gyda’i gilydd nawr, yn magu’r babi gyda’i gilydd fel teulu.  Mae gwybod ein bod wedi chwarae rhan fach yn hynny yn golygu cymaint i ni.”

Mae straeon fel hyn yn dangos gwir effaith maethu – nid newid un bywyd yn unig, ond newid dyfodol teulu cyfan.

Dysgu gyda’n gilydd, bob cam o’r ffordd

Does dim disgwyl i unrhyw un wybod y cyfan o’r diwrnod cyntaf un.

Mae pob gofalwr rhieni a phlant yn cael hyfforddiant arbenigol a chefnogaeth barhaus gan eu gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol.

“Mae rhywun ar gael bob amser i gynnig cyngor. Dydyn ni byth yn teimlo’n unig. Mae’r hyfforddiant wir wedi ein helpu ni i ddeall sut i gefnogi rhieni heb gymryd drosodd – mae’n ymwneud ag arwain, nid gwneud pethau drostyn nhw.”

Rydych chi’n rhan o dîm, bob cam o’r daith.

Adeiladu ymddiriedaeth yn gyntaf

Mae maethu rhieni a phlant wedi’i adeiladu ar berthnasoedd.

“Gall rhieni fod yn ofnus pan fyddant yn cyrraedd, neu deimlo eu bod yn cael eu barnu. Felly rydyn ni’n canolbwyntio ar ymddiriedaeth yn gyntaf.  Rydyn ni’n gadael iddyn nhw wybod ein bod ni ar eu hochr nhw.

Rydyn ni’n canmol y buddugoliaethau bach.  Rydyn ni’n eu hannog nhw Rydym yn gwrando.

Gynted ag y maen nhw’n teimlo’n ddiogel, mae popeth arall yn dechrau syrthio i’w le.”

Gall yr hyder hwnnw newid bywydau.

Gweld hyder yn tyfu

Roedd un rhiant y gofalon nhw amdani wedi tyfu i fyny mewn gofal ei hun ac ychydig iawn o gefnogaeth oedd ganddi.

“Doedd hi erioed wedi newid cewyn o’r blaen. Roedd hi mor nerfus.  Ond wythnos wrth wythnos, roeddech chi’n gweld ei hyder yn cynyddu.

Erbyn iddi adael, roedd hi’n ddigynnwrf, yn fedrus iawn ac yn gwbl ymroddedig i’w babi.

Nawr mae hi’n anfon lluniau aton ni o’i bachgen bach yn rhedeg o gwmpas ac yn ffynnu. Mae’n wych gweld hyn.”

Mae eiliadau fel hynny yn aros gyda chi am byth.

Cadw’r cysylltiad

Un o’r pethau mwyaf gwerth chweil?

“Rydyn ni’n dal i gael negeseuon a’r newyddion diweddaraf gan lawer o’r teuluoedd rydyn ni wedi’u cefnogi. Mae gweld y plant hynny’n hapus ac yn ddiogel yn ein hatgoffa pam rydyn ni’n gwneud hyn.”

Nid lleoliad yn unig yw maethu rhieni a phlant.
Mae’n berthynas sy’n para.”

Diddordeb mewn maethu?

Os yw darllen y blog hwn wedi eich annog i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.  

Ydych chi’n byw ym Mro Morgannwg? Anfonwch neges aton ni a byddwn ni’n ymateb cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych chi’n byw yn rhan arall o Gymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch weld y cyfan am wasanaeth eich awdurdod lleol gan gynnwys manylion cyswllt.

Story Time

Stories From Our Carers