Blog

o fabwysiadu i faethu: taith anthony a richard

Ar ôl pum mis fel gofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Bro Morgannwg, mae Anthony a Richard yn rhannu eu stori ysbrydoledig am sut y gwnaeth eu profiad mabwysiadu eu harwain nhw i ddod yn ofalwyr maeth ymroddedig.

Pam oeddech chi am ddod yn ofalwyr maeth?

“Fe wnaethon ni fabwysiadu ein mab drwy Gyngor Bro Morgannwg a chawson ni ein hysbrydoli gan ei ofalwr maeth gwych. Gwnaeth hi waith anhygoel, a gwelson ni yn uniongyrchol yr effaith a gafodd ei chariad a’i gofal ar ddatblygiad ein mab. Roedd ei hymroddiad a’i thosturi wedi ein cyffwrdd yn ddwfn ac wedi plannu’r hedyn ar gyfer rhywbeth mwy.

Mae ei hesiampl wych wedi ein hysbrydoli nid yn unig i agor ein cartref i’r rhai sydd angen amgylchedd diogel a chariadus ond hefyd i gefnogi eraill ar eu taith – p’un a ydyn nhw’n ddarpar rieni mabwysiadol, neu’n deuluoedd biolegol.”

Oeddech chi erioed wedi poeni y byddai bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+ yn eich atal rhag gallu dod yn ofalwyr maeth?

“Ddim o gwbl, roedden ni eisoes wedi cael profiad cadarnhaol gyda thîm mabwysiadu Bro Morgannwg, felly roedden ni’n ymwybodol eu bod nhw’n gwbl gynhwysol.”

Beth oedd eich barn chi am y broses asesu?

“Mae’r broses faethu yn drylwyr, ac mae hynny’n bwysig. Mae angen i chi fod yn barod i fod yn agored ac yn onest am eich hanes bywyd eich hun. Ond roedd ein gweithiwr cymdeithasol yn gwneud i hynny deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus, gan greu gofod lle gallen ni fyfyrio heb farn.

Roedden ni hefyd yn gweld yr hyfforddiant yn arbennig o ddiddorol, ac ar adegau, yn deimladwy iawn. Rhoddodd gipolwg gwirioneddol i ni ar rôl gofalwr maeth, yr heriau y gall plant sy’n derbyn gofal eu hwynebu, a’r effaith gydol oes y gall amgylchedd sefydlog a meithringar ei chael. Mae ansawdd yr hyfforddiant yn amlwg ac wedi ein helpu ni i deimlo’n barod, yn wybodus ac yn ysbrydoledig.”

Sut deimlad oedd cael eich cymeradwyo fel gofalwyr maeth?

“Roedden ni’n falch iawn; doedd e ddim wedi taro ni nes i ni gael ein cardiau adnabod sy’n dweud ‘Gofalwr Maeth’ gyda’n henw a’n llun ni arnyn nhw. Rydyn ni’n falch o fod yn ofalwyr maeth.”

Beth fyddai eich cyngor chi i unrhyw berson LHDTC+ a allai fod yn ystyried gofal maeth?

“Mae gan y Fro dîm maeth hyfryd felly os ydych chi’n berson LHDTC+, rydych chi mewn lle diogel i fod yn eich gwir hunan. Fe wnaethon nhw hefyd gymryd rhan yn nigwyddiad Pride y Barri yn ddiweddar, ac roeddwn i’n meddwl bod hynny’n wych.”

Beth yw uchafbwyntiau eich taith faethu hyd yn hyn?

“Gyda’n mab mewn gofal maeth gynt, rydyn ni’n gallu datrys a’i helpu i ddeall rhannau o’i daith ei hun trwy faethu mewn ffordd sy’n briodol i’r oedran. Mae hefyd wedi bod yn hynod werthfawr a, heb swnio’n ystrydebol, mae’n teimlo fel rhywbeth rydyn ni i fod i’w wneud.”

Sut mae’r cymorth gan Maethu Cymru Bro Morgannwg wedi bod?

“Gwych. Yn benodol, rydyn ni wedi cael cymorth gwych gan y gweithwyr cymdeithasol rydyn ni wedi gweithio gyda nhw; allwn ni ddim canu eu clodydd ddigon gan nad ydyn nhw’n cael digon o glod. Mae yna hefyd y cymorth rydych chi’n ei gael gan ofalwyr maeth eraill wrth i ni gael ein gwahodd i grŵp WhatsApp sy’n gefnogol ac yn ddefnyddiol iawn.”

I unrhyw un yn y gymuned LHDTC+ sy’n ystyried gofal maeth, mae neges Anthony a Richard yn glir: rydych chi’n perthyn yma. Mae eu taith nhw’n dangos y gall gofal maeth, gyda’r cymorth, yr hyfforddiant a’r ymrwymiad cywir, fod yn llawn boddhad ar lefel bersonol a newid bywyd y plant sydd angen cartrefi diogel a chariadus.

Ar ôl dim ond pum mis, mae Anthony a Richard eisoes wedi darganfod nad yw maethu’n ymwneud â rhoi gofal yn unig – mae’n ymwneud â dod o hyd i bwrpas, creu cymuned, a gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pobl ifanc.

Os yw stori Anthony a Richard wedi eich ysbrydoli, cysylltwch â ni yma am sgwrs gyfeillgar, anffurfiol.

Story Time

Stories From Our Carers