Mae Christine a Mike wedi bod yn ofalwyr maeth cymeradwy ers dros 20 mlynedd. Mae ganddyn nhw ddau o blant sydd bellach yn oedolion ac yn byw eu bywydau eu hunain. Yn ystod eu 15 mlynedd cyntaf o faethu, cawsant gyfoeth o brofiad yn maethu’n llawn amser. Fe benderfynon nhw newid i faethu rhan amser ar ôl iddyn nhw ymgymryd â’r ymrwymiad i fod yn ofal plant i’w hŵyr tra bod eu merch a’i gŵr yn gweithio’n llawn amser. Dyma eu stori nhw.
Beth ysgogodd eich diddordeb mewn maethu i ddechrau?
“Roedd ein plant ein hunain yn tyfu i fyny felly fe siaradon ni amdano fel teulu a phenderfynu y byddai’n beth da i roi rhywbeth yn ôl. Mae gan Mike frawd mabwysiadol, felly mae wedi cael profiadau cadarnhaol gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a chawsom ymwybyddiaeth o faethu.”
Mae bob amser yn bwysig cael y trafodaethau hyn gyda’ch teulu i sicrhau eich bod ar y cam cywir yn eich bywydau i agor eich cartref. I ddysgu mwy am hanfodion maethu, ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin yma.
Sut mae maethu yn ffitio o amgylch eich bywyd?
“Mae’r un cwpl o blant yn dod bob yn ail penwythnos ac mae hynny’n rhoi seibiant rheolaidd i’w gofalwr llawn amser. Ry’n ni wedi gwneud hyn ers tua 4 blynedd ac mae’n ymrwymiad rheolaidd sy’n gweithio’n dda o gwmpas ein hymrwymiadau eraill mewn bywyd.”
Dyma enghraifft wych o sut y gellir mowldio maethu achlysurol yn hawdd o amgylch eich bywyd. Os ydych chi’n gweithio’n llawn amser, mae’n rhywbeth y gallech chi ei wneud ar benwythnosau neu wyliau. Mae’n dibynnu’n llwyr ar beth rydych chi’n teimlo y gallwch chi wneud. Dysgwch am y gwahanol fathau o faethu yma.
Beth yw’r manteision?
“Gyda maethu rhan amser, mae llawer o hyblygrwydd. Ry’n ni’n rhydd i ddweud ie neu na yn dibynnu ar ein hymrwymiadau. Ry’n ni’n dal i allu magu perthynas hyfryd gyda’r plant – yn enwedig y rhai rydyn ni’n eu gweld yn rheolaidd. Yn bwysig, ry’n ni’n rhoi cyfle i rieni maeth eraill gael seibiant haeddiannol.”
Mae’n bwysig deall pa fath o faethu fyddai’n gweddu orau i’ch bywyd chi. Os ydych chi’n chwilio am ffordd sy’n cymryd llai o amser i helpu plant, yna mae maethu rhan amser yn opsiwn gwych.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gofal rhan amser?
“Mae gofal rhan amser yn rhan hanfodol o’r teulu maethu – mae gan ofalwyr maeth hyder y bydd y plant y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw’n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn cael gofal da tra byddan nhw’n cael seibiant. Os ydych chi eisiau helpu bywydau plant heb ymrwymiad llawn amser, ystyriwch faethu rhan amser.”
Mae dod i nabod pob plentyn sy’n aros gyda chi yn bwysig er mwyn iddyn nhw allu teimlo mor gyfforddus ag y gallan nhw. Yn ddigon buan, byddwch chi’n gwybod pob bwyd maen nhw’n ei garu neu’n ei gasáu a’u hoff deganau.
“Ystyriwch ba gefnogaeth neu unrhyw beth ymarferol sydd ei angen arnoch chi gan yr awdurdod lleol a pheidiwch ag ofni cysylltu â nhw.”
Mae’n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, rydyn ni yma gyda chi bob cam o’r ffordd. Bydd wastad rhywun o’n tîm ni ar ben arall y ffôn i’ch cefnogi.
Beth mae maethu yn ei olygu i chi?
“Rydw i a Mike wedi cael llawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar ein taith faethu. Ry’n ni wedi croesawu tua 60 neu 70 o blant agored i niwed i’n cartref. Mae rhai plant wedi bod yn haws nag eraill ond mae adeiladu’r perthnasau ‘na ac ennill ffydd y plant, a allai fod wedi dioddef trawma sylweddol, yn bwysig iawn i ni. Mae gwylio’r plant yn symud i gartref parhaol yn hynod o werthfawr ac ry’n ni’n gwybod y gall ein mewnbwn wneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau. Ry’n ni’n cadw mewn cysylltiad gyda thipyn o’r plant sydd wedi symud ‘mlaen i fabwysiadu. Ry’n ni hefyd yn cefnogi unigolyn sy’n ddyn ifanc bellach, y gwnaethom ei faethu tua 15 mlynedd yn ôl. Ry’n ni’n cynnig cyngor pan fo angen ac, yn amlach, clust i wrando pan mae mae ein hangen ni arno.”
Nid yw maethu rhan amser yn golygu na fyddwch chi’n creu bond anhygoel gyda’r plant yn eich gofal. Mae Christine a Mike yn enghraifft wych o sut gallwch chi barhau i gefnogi plentyn a bod yn rhan o’i fywyd hyd yn oed ar ôl iddo dyfu i fyny.
“Ry’n ni’n hapus ein bod wedi cael y cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau’r holl blant ‘ma. Gyda maethu rhan amser, ry’n ni’n dal i gael y cyfle i feithrin y perthnasoedd ‘na wrth wneud gweithgareddau hwyl gyda’r plant. Maen nhw’n ystyried y saib o’u gofalwr rheolaidd fel rhyw fath o wyliau bach.”
Os yw stori Christine a Mike wedi eich ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf, cysylltwch â ni am sgwrs gyfeillgar ac anffurfiol am faethu.