Blog

Proses asesu maethu

Mae Leanne a Mark wedi cael eu cymeradwyo fel gofalwyr maeth ers mis Mehefin 2023. Gofynnon ni iddyn nhw sut oedd y broses asesu i fod yn ofalwr maeth.

Sut beth yw gwneud cais i faethu?

Rydym yn deall y gallwch deimlo’n nerfus wrth wneud y cyswllt cyntaf hwnnw, mae gennym dîm ymroddedig fydd yn eich cefnogi drwy’r broses. Hyd yn oed os ydych eisiau sgwrs anffurfiol am faethu i gael mwy o wybodaeth, rydym yma i helpu. Dyma drosolwg byr o’r hyn i’w ddisgwyl:

Y cam cyntaf yw galwad ffôn gychwynnol, i gael manylion gennych a sicrhau eich bod yn addas ar gyfer maethu.

Nesaf, yr ymweliad cartref cyntaf. Mae hwn yn gyfle i chi ddysgu mwy am realiti maethu, ac i ni ddeall ychydig mwy amdanoch chi. Yn dilyn hyn, bydd ffurflen gais yn cael ei hanfon atoch, lle mae angen gwybodaeth arnom ar gyfer y geirdaon a’r gwiriadau.

Yna bydd asesydd yn cael ei ddyrannu i chi, fydd yn cynnal yr asesiad llawn. Fe’ch gwahoddir i’n cwrs hyfforddiant Sgiliau i Faethu, bydd hyn yn cynnwys llawer o bynciau ac yn rhoi dealltwriaeth well i chi o beth yw maethu.

Mae’r broses asesu yn cymryd chwech i wyth mis, unwaith y bydd wedi’i chwblhau, mae’n ofynnol i chi fynychu’r panel maethu. Bydd eich asesiad yn cael ei adolygu, a gwneir argymhelliad ynghylch a ddylid eich cymeradwyo.

Beth oedd eich barn chi am y broses asesu?

“Fe wnaethom ei fwynhau yn fawr Fe wnaethom ddatblygu perthynas mor dda gyda’n hasesydd, ac roedd hi’n broffesiynol iawn. Roeddem yn teimlo’n gyfforddus gyda hi, sy’n bwysig oherwydd roedd llawer o gwestiynau personol manwl. Roedd yn ysgogi’r meddwl ac yn eich gorfodi i herio eich hun i fod yn onest am bob agwedd ar eich bywyd. Roedd yn hynod drylwyr ac yn caniatáu i’r awdurdod lleol gael darlun gwell ohonom ni fel teulu.”

Ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael digon o gefnogaeth a chyfathrebu drwy gydol y broses?

Cawsom gefnogaeth ardderchog; roedd ein hasesydd bob amser wrth law ac roedd yn hyblyg gydag apwyntiadau a oedd yn cael eu trefnu i gyd-fynd â’n bywydau. Roeddem mewn sefyllfa unigryw lle nad oeddem yn gallu cael geirdaon o gyfnod pan oeddem yn byw dramor, ac roedd yr awdurdod lleol yn deall hyn yn iawn. Roeddent yn ymddiried ynom ac yn gweithio o amgylch y rhwystr, ac roeddem yn hynod ddiolchgar am hynny.”

A oedd y cwrs Sgiliau i Faethu yn fuddiol yn eich barn chi?

“Roedd yr hyfforddiant yn anhygoel, fe wnaethon ni ei fwynhau’n fawr ac roedd yn addysgiadol iawn. Os rhywbeth, byddem yn dymuno iddo fod yn hirach! Ein hoff ran o’r cwrs oedd sesiwn yr Enfys, roedd mor ddiddorol a hawdd i’w ddilyn.”

Mae Enfys yn wasanaeth GIG o fewn Seicoleg Plant ac mae’n dod o dan Iechyd Cymunedol Plant ochr yn ochr â CAMHS. Mae’r tîm yn cynnwys seicolegwyr clinigol, therapydd galwedigaethol a gweithwyr iechyd meddwl graddedig. Maent yn gweithio un i un gyda theuluoedd os oes angen cyngor a chefnogaeth ychwanegol arnynt i wella cyfathrebu ac ymddiriedaeth. Maent yn cynnig asesiadau ac ymgynghoriadau i ofalwyr a gweithwyr cymdeithasol i’w helpu i ddeall y plentyn ac ymateb i’w hanghenion mewn ffordd therapiwtig.

A oeddech chi’n teimlo’n barod am faethu ar ôl cael eich cymeradwyo?

“Dw i ddim yn meddwl y gallwch chi fyth fod yn barod amdano! Cefais rai offer defnyddiol fel llyfrau am rianta therapiwtig, a helpodd hyn i mi ddysgu mwy am y gwahanol ddulliau o fagu plant.”

Mae llawer o adnoddau defnyddiol ar gael i helpu’ch dysgu a’ch datblygiad fel gofalwr maeth. Ewch i dudalen y Rhwydwaith Maethu yma i weld rhai enghreifftiau.

Sut oedd y panel maethu?

“Roeddem yn nerfus iawn wrth gerdded i mewn am y tro cyntaf, ond roedd pawb yn hyfryd, ac roeddem yn teimlo’n gyfforddus yn syth. Roedd yn fewnwelediad da, ac yn angenrheidiol gan fod maethu yn rôl bwysig yr ydych yn mynd i’w gwneud.”

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried maethu?

“Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch â bod ofn gofyn. Mae llawer o bobl yn y tîm ac offer allan yna a all eich helpu.”

Mae’n bwysig cofio nad ydych ar eich pen eich hun, rydym yma i’ch cefnogi ar bob rhwystr. Fel awdurdod lleol, mae gennym dîm profiadol i ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud maethu yn llwyddiant.

Eisiau dechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw darllen y blog hwn wedi eich annog i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Byw ym Mro Morgannwg, Cymru? Anfonwch neges atom a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
Os ydych yn byw rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers