Blog

maethu brodyr a chwiorydd

Mae brodyr a chwiorydd yn aml yn dod i mewn i ofal gyda’i gilydd am wahanol resymau na allant fyw gartref. Credwn fod cadw brodyr/chwiorydd gyda’i gilydd yn yr un cartref maeth yn rhoi cysur, diogelwch ac ymdeimlad o normalrwydd iddynt. Mae adeiladu dyfodol gwell yn aml yn ymwneud â gwneud y gorau o’r bondiau pwysig sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â chreu rhai newydd.

Mae Mark, ynghyd â’i wraig Lorraine, wedi bod yn maethu grwpiau o frodyr/chwiorydd ers chwe blynedd. I ddechrau, gwnaethant gynnig seibiant am gwpl o benwythnosau i ddau frawd/chwaer ac ers y 5 mlynedd diwethaf maent wedi brawd/chwaer wedi bod yn byw gyda nhw yn yr hirdymor. Gwnaethon ni gyfarfod â Mark i gael gwybod rhagor am ei brofiad yn maethu brodyr/chwiorydd.

Pam wnaethoch chi benderfynu maethu?

“Roedd yn rhywbeth yr oeddem wedi ei ystyried erioed ond heb gymryd y cam chwaith. Roedden ni’n cael sgwrs un diwrnod ac yn meddwl, mae ein plant wedi tyfu i fyny nawr, ac mae gennym lawer o gariad i’w roi o hyd. Rydyn ni wedi rhoi dechrau gwych mewn bywyd i’n pedwar bachgen, a dyma oedd ein cyfle i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i ragor o blant.”

Beth oedd eich gyrfa cyn maethu?

“Dechreuais fy ngyrfa ar y llinell gynhyrchu, gweithiais fy ffordd i fyny i fod yn beiriannydd maes ac yna gweithiais yn profi peiriannau. Roedd yn wahanol iawn i’r hyn rwy’n ei wneud nawr fel gofalwr maeth ond weithiau nid oes angen sgiliau penodol arnoch, dim ond bod yn berson didwyll sydd ei angen arnoch chi. Os ydych chi’n berson gwirioneddol ofalgar sy’n poeni am blant, gallwch chi fod yn ofalwr maeth. Rwyf bellach yn ofalwr llawn amser ac mae fy ngwraig yn dal i barhau â’i swydd fel gweithiwr gofal.”

Beth yw’r heriau mwyaf yr ydych wedi’u hwynebu fel gofalwr maeth? 

“Mae’n rhaid i chi fod yn hyblyg gan fod pethau’n newid. Pan roedd plant yn cyrraedd, roedden nhw’n orbryderus o gwmpas dynion oherwydd trawma yn y gorffennol, ond pan gafodd hyn ei nodi roedden ni’n gallu gweithio drwyddo gyda’n gilydd.”

Beth yw eich cyflawniadau mwyaf?

“Y cyflawniad mwyaf yw’r gwahaniaeth a welwn yn y plant. Maent bellach yn ymddwyn yn hollol groes i’r hyn yr oedden nhw’n ei wneud pan gyrhaeddon nhw, maen nhw’n hyderus ac yn hapus, er bod ganddyn nhw lawer o broblemau o hyd, mae cynifer o bethau cadarnhaol. 

I mi, mae’n debyg i lun paentio yn ôl rhifau, ar y dechrau does dim lliw, wedyn mae’n lliwgar a llachar.”

Pa gymorth ydych chi’n ei gael gan Maethu Cymru Bro Morgannwg i’ch helpu i ofalu am y bobl ifanc?

“Mae’r hyfforddiant ym Maethu Cymru Bro Morgannwg yn ardderchog, mae wedi fy helpu i ddeall rhai ymddygiadau. Rwyf am fod y gofalwr maeth gorau y gallaf fod, felly rwy’n dysgu ac yn dilyn cyrsiau yn barhaus i’m helpu i ddeall.”

Beth yw eich cyngor i unrhyw un sy’n meddwl am faethu?

“Peidiwch â mynd i mewn iddo gan feddwl y bydd yn hawdd, ond dyma’r peth mwyaf buddiol y byddwch chi erioed yn ei wneud yn eich bywyd.”

Eisiau dechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw darllen stori Mark wedi eich annog i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.
Byw ym Mro Morgannwg, Cymru? Anfonwch neges atom a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers