Blog

Maethu Pobl Ifanc yn eu Harddegau

Gall maethu pobl ifanc yn eu harddegau fod yn brofiad gwerth chweil ond heriol. Yn aml, mae gan bobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn gofal maeth anghenion unigryw ac maent yn wynebu trafferthion penodol oherwydd eu hoedran a’u profiadau yn y gorffennol. Ar yr adeg hon yn eu bywydau, maent yn ceisio sefydlogrwydd, meithriniad a dealltwriaeth wrth iddynt dyfu’n oedolion. Fe wnaethon ni siarad â Nicky, sydd wedi maethu 44 o bobl ifanc hyd yn hyn.

Pam maethu pobl ifanc yn eu harddegau?

Roedd Nicky wastad wedi meddwl am faethu ond nid tan iddi symud i Gymru o Lundain lle prynodd hi dŷ mwy o faint gydag ystafelloedd gwely sbâr y penderfynodd wneud rhywbeth amdano.

Roedd Nicky, ei gŵr a’i merch 18 oed bob amser yn awyddus i faethu pobl ifanc yn eu harddegau gan eu bod yn teimlo bod ganddynt lefel benodol o annibyniaeth, ac roedd eu tŷ yn fwy addas ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau na phlant iau. “Ymhlith y buddion sydd ynghlwm wrth faethu yn gyffredinol mae gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth, eich bod yn rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd, lloches rhag y storm ond, gyda phobl ifanc yn eu harddegau, rydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael effaith fwy uniongyrchol ar eu bywydau fel oedolion.”

Pwy sy’n gallu maethu pobl ifanc yn eu harddegau?

Nid oes unrhyw gymwysterau i ddod yn ofalwr maeth er bod cyrsiau dysgu a datblygu yn cael eu rhoi ar waith i ofalwyr maeth er mwyn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth i gyfoethogi eich gwybodaeth am ofalu am berson ifanc. “Dwi’n credu bod angen yr un rhinweddau ag unrhyw riant i faethu pobl ifanc yn eu harddegau: amynedd, gwydnwch, empathi.”

Mae bod yn rhan o deulu maeth wedi fy nysgu nad oes ots am eich cefndir na pha ffordd o fyw rydych chi’n byw, mae pawb yn haeddu’r cyfle hwnnw.”

Heriau a buddion maethu pobl ifanc yn eu harddegau

Mae maethu pobl ifanc yn eu harddegau yn gofyn am amynedd, ymrwymiad ac awydd gwirioneddol i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc sydd angen sefydlogrwydd a chefnogaeth. Er y gall fod yn heriol, mae’r potensial ar gyfer newid cadarnhaol a thwf personol yn gwneud y cyfan yn werth chweil. “Mae wedi bod yn daith llawn hynt a helyntion gyda rhai uchafbwyntiau gwefreiddiol a rhai isafbwyntiau ofnadwy ac mae sawl tro sy’n corddi’r stumog, ond erbyn i chi gyrraedd diwedd y reid rydych chi’n crefu mwy.”

Cyngor i bobl sy’n meddwl am faethu

“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried maethu yw ‘Gwnewch e!’ Siaradwch amdano gyda’ch ffrindiau a’ch teulu, gofalwyr maeth eraill a phobl nad ydynt yn gwybod am faethu. Mae llawer o wahanol ffyrdd o faethu a bydd rhywbeth sy’n addas i chi.”

Mae Nicky, fel llawer o ofalwyr maeth, yn cadw mewn cysylltiad â nifer o bobl ifanc sydd wedi cerdded trwy ei drws ac yn dal polisi drws agored ar gyfer prydau poeth a chwtsh.

Am ddechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw darllen y blog hwn wedi eich annog i ystyried dod yn ofalwr maeth, yna bydden ni wrth ein boddau o glywed gennych. 

Ydych chi’n byw ym Mro Morgannwg, Cymru? Anfonwch neges atom a byddwn yn ymateb i chi cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan  Maethu Cymru lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers